Y Cyfarfod Llawn

 

Dyddiad y cyfarfod:
Dydd Mercher, 17 Hydref 2012

 

Amser y cyfarfod:
13:30

 

 

 

 

Agenda

(89)v2

 

<AI1>

1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy (45 munud) 

 

Gweld y cwestiynau

</AI1>

<AI2>

2. Cwestiynau i’r Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth (45 munud) 

 

Gweld y cwestiynau

</AI2>

<AI3>

3. Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) (60 munud) 

 

NNDM5020

 

Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru)

 

Mick Antoniw (Pontypridd)

 

Russell George (Sir Drefaldwyn)

 

William Powell (Canolbarth a Gorllewin Cymru)

 

Mae’r Cynulliad Cenedlaethol:

 

1. Yn cydnabod y potensial i gynhyrchu ynni adnewyddadwy o Aber Afon Hafren a phwysigrwydd prosiect o’r fath i Lywodraeth Cymru o ran cyflawni ei thargedau ynni adnewyddadwy, yn ogystal â’r potensial i greu cyflogaeth a chyfleoedd hyfforddi; a

 

2. Yn credu, wrth ddatblygu ynni o’r fath, y dylid dylunio’r dechnoleg i echdynnu’r ynni gan sicrhau ei fod yn cael yr effaith amgylcheddol leiaf bosibl, cyn belled ag sy’n rhesymol ymarferol a chymesur.

 

</AI3>

<AI4>

4. Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd ar Bolisi Ynni a Chynllunio yng Nghymru (60 munud) 

 

NDM5066 Dafydd Elis-Thomas (Dwyfor Meirionydd)

 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd ar ei ymchwiliad i bolisi ynni a chynllunio yng Nghymru a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 27 Mehefin 2012.

 

Noder: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 10 Hydref 2012.

 

Dogfennau ategol:

Adroddiad y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd

Ymateb Llywodraeth Cymru

 

</AI4>

<AI5>

5. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig (60 munud) 

 

NDM5068 William Graham (Dwyrain De Cymru)

 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn cydnabod cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru i sicrhau bod gwasanaethau o ansawdd uchel yn cael eu darparu i ddiwallu anghenion amrywiol holl blant Cymru.

 

2. Yn nodi:

 

a) bod lefel y tlodi plant yng Nghymru yn uwch na holl wledydd eraill y DU;

 

b) bod cyrhaeddiad addysgol yng Nghymru yn is na chyfartaledd y DU, a bod bylchau cyrhaeddiad allweddol wedi tyfu; ac

 

c) bod nifer o anghydraddoldebau iechyd yn bodoli rhwng plant yng Nghymru a gweddill y DU.

 

3. Yn gresynu bod Llywodraeth Cymru yn methu â chyflenwi’r gwasanaethau o ansawdd uchel y mae eu hangen i helpu plant i gyflawni eu potensial llawn.

 

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

 

Gwelliant 1 - Jane Hutt (Bro Morgannwg)

 

Dileu pwyntiau 2 a 3 a rhoi yn eu lle:

 

Yn nodi’r flaenoriaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei rhoi i hawliau plant a phobl ifanc a’r buddsoddiad sylweddol y mae wedi ei wneud er mwyn rhoi’r dechrau gorau posibl i blant, er enghraifft ehangu Dechrau’n Deg, a’i chymorth i helpu plant i gyflawni eu potensial.

 

Gwelliant 2 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)

 

Ychwanegu pwynt 2 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:

 

Yn cydnabod yr effaith niweidiol y mae diwygiadau lles Llywodraeth y DU yn ei chael ar blant sydd eisoes yn byw mewn tlodi yng Nghymru.

 

Gwelliant 3 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

 

Ychwanegu pwynt 3 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:

 

Yn croesawu cyflwyno'r Grant Amddifadedd Disgyblion yng Nghymru.

 

Gwelliant 4 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

 

Ychwanegu pwynt 3 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:

 

Yn credu y bydd ffocws newydd ar wella tai ac iechyd y cyhoedd mewn ardaloedd o amddifadedd yn lleihau anghydraddoldebau iechyd rhwng plant yng Nghymru a phlant yng ngweddill y DU.

 

Gwelliant 5 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud Estyn yn gyfrifol am fonitro a gwerthuso’r Grant Effeithiolrwydd Ysgolion a'r Grant Amddifadedd Disgyblion yn rheolaidd, er mwyn sicrhau bod ysgolion ac awdurdodau lleol yn eu defnyddio yn y ffordd orau bosibl i leddfu effeithiau tlodi ar gyrhaeddiad addysgol plant.

</AI5>

<AI6>

Cyfnod Pleidleisio

</AI6>

<AI7>

6. Dadl Fer (30 munud) 

 

NDM5067 Jenny Rathbone (Canol Caerdydd)

 

Gwella Gofal Dementia – datblygu gwasanaethau di-dor

 

Mae’r cynnydd yn nifer yr achosion o ddementia yn golygu ei bod yn hollbwysig ailfeddwl am wasanaethau yn ogystal ag agweddau. Gall gwneud diagnosis ac asesiadau yn gynharach gadw pobl allan o'r ysbyty ac mae hynny'n eu galluogi i lunio'r trefniadau ar gyfer eu gofal tymor hir. Mae ar bobl angen gwasanaethau amlddisgyblaethol, hyblyg a chosteffeithiol i’w cefnogi wrth i’w hanghenion newid.

 

</AI7>

<TRAILER_SECTION>

 

Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13:30, Dydd Mawrth, 23 Hydref 2012

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

 

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>